Rydym yn defnyddio cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i wella’ch profiad ar y wefan hon.

Gallwch dderbyn ein polisi cwcis neu addasu’ch dewisiadau.

Cyfeiriwch at ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth.

Rheoli gosodiadau cwcis

Gwlad, gwlad.
This is Wales.

Sut ydym am i’n byd ein gweld ni? Mae gan frand Cymru Wales yr ateb. Mae’n ffynhonnell ysbrydoliaeth i ysgogi ein hymdrechion creadigol, ac yn wahoddiad i weithio gyda ni i hyrwyddo’r cyfan sydd gennym i’w gynnig.

Dyma ein stori.


Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru

Ar draws ein holl weithgareddau mae’n hanfodol ein bod yn cyflwyno gweledigaeth glir a chyson o rinweddau hollbwysig Cymru. Dim ond drwy adeiladu ein holl ddulliau creadigol ar sylfaen gyffredin y gallwn wneud hyn.

Mae brand Cymru Wales yn rhoi’r sylfaen hon. Mae’n helpu i wneud yn siŵr bod ein neges yn cael ei chyflwyno’n hyderus, yn glir, yn syml a gyda steil.

Nid yw ymgyrch y brand wedi’i chyfyngu i sector, polisi neu gynnyrch penodol. Mae’n manteisio ar ein cryfderau, gan ganolbwyntio ar y rhinweddau bythol sy’n sail i bopeth a wnawn:

— Ein hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaethol gref
— Ein gwir deimlad o gymuned: graddfa ddynol Cymru
— Tirweddau rhagorol Cymru: yr awyr agored a’n diwylliant o antur
— Ein hamgylchedd cefnogol ar gyfer pobl a busnesau
— Ein cysylltiadau i farchnadoedd allweddol yn y DU ac Ewrop ac i’n gilydd
— Rhoi llesiant a diben cymdeithasol wrth wraidd popeth a wnawn
— Bod yn llawn creadigrwydd

Mae’r agenda newyddion yn lle prysur. Drwy gyfuno ein holl leisiau mae’r cyfle gorau gennym i gael ein clywed uwchlaw’r dorf.

Awn amdani.


Defnyddio hwb y brand

Mae hwb brand Cymru Wales yn dwyn ynghyd gyfoeth o asedau digidol, sy’n dangos y gorau o Gymru.

O’r tudalennau hyn gallwch chwilio ein llyfrgell eang o ffotograffau o safon. Gallwch hefyd ddod o hyd i fideos, darluniau, ffeithluniau, logos a deunyddiau cefnogi eraill – yn cynnwys canllawiau pellach ar ddefnyddio brand Cymru Wales a sut y gallwch chi ei wneud i weithio dros Gymru.

Gellir defnyddio ein hasedau at ddibenion golygyddol, hyrwyddo a marchnata sy’n dod o fewn ein telerau defnyddio. I gael mynediad at logos ein brand, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais syml. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.


Chwilio yn ôl thema


Pecynnau cymorth


Chwilio yn ôl rhanbarth