Rydym yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i wella’ch profiad ar y wefan hon.
Gallwch dderbyn ein polisi cwcis neu addasu’ch dewisiadau.
Cyfeiriwch at ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth.
Ar draws Cymru gyfan mae syniadau newydd gwych yn cael eu rhoi ar waith: mewn swyddfeydd a phrifysgolion; mewn stiwdios a labordai; mewn gwyliau ac yn yr awyr agored.
Mae tirweddau ac arfordiroedd eithriadol yn gefnlenni ar gyfer anturiaethau epic. Mae diwylliant cyfoethog a chyfoes yn adlewyrchu storïau, gobeithion a breuddwydion ein pobl i gyd.
Mae gennym gyfoeth o adnoddau naturiol, ynghyd ag ysbryd arloesol ac entrepreneuraidd. Maent i gyd yn ysgogi syniadau newydd ac uchelgais creadigol.
Mae ein doniau, sgiliau a thechnoleg eisoes yn llunio diwydiannau’r dyfodol: datblygedig, digidol, trawsnewidiol.
Gyda phwyslais ar ddiogelu a gwarchod yr amgylchedd, y gymuned a diwylliant, rydym yn cofleidio heriau heddiw tra’n gosod y sylfeini ar gyfer yfory cynaliadwy.
Gwlad, gwlad.
Mae Cymru yn wlad o brofiadau gwirioneddol o ansawdd uchel mewn mannau trawiadol.
Mae tirweddau llawn ysbrydoliaeth yn rhoi cefnlen ar gyfer anturiaethau newydd, ac maent yn gyforiog o ddiwylliant cyfoethog a diddorol - o ddigwyddiadau chwaraeon byd-eang i wyliau unigryw.
Mae ein cymunedau yn arbennig am eu croeso. Mae ein dinasoedd ifanc, deinamig, ein trefi marchnad ffyniannus ac arfordir lliwgar yn cynnwys mannau unigryw i aros.
Rydym eisiau canolbwyntio ar Gymru fel lle ar gyfer:
— Antur o’r radd flaenaf
— Diwylliant cyfoes
— Tirweddau naturiol rhagorol
— Digwyddiadau byd-eang ac unigryw
— Teimlad arbennig o le
Mae economi Cymru yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol. Ymhlith ein prif nodweddion mae ysbryd o entrepreneuriaeth, pwyslais ar ddiwydiannau newydd beiddgar, dulliau arloesol ar gyfer heriau heddiw - yn eu plith datgarboneiddio, awtomatiaeth a seiberddiogelwch.
Gallwn gynnig ystod eang o leoliadau llawn ysbrydoliaeth, adnoddau naturiol o’r radd flaenaf a chymuned gysylltiedig sy’n gwerthfawrogi ac yn meithrin doniau creadigol i fusnesau.
Gyda strwythurau cefnogi pwrpasol, llwybrau uniongyrchol at farchnadoedd y DU a’r UE, a mynediad cyflym at wneuthurwyr penderfyniadau allweddol, mae Cymru yn fan lle gall busnesau wreiddio a thyfu yn gyflym.
Rydym eisiau canolbwyntio ar Gymru fel lle ar gyfer:
— Diwydiannau newydd y dyfodol
— Gweithlu medrus a dawnus
— Gwasanaethau a chynhyrchion crefftus
— Ysbryd o entrepreneuriaeth
— Cyfoeth o adnoddau naturiol
Diolch i’n harfordir eang a thirwedd ffrwythlon a chyfoethog, mae bwyd a diod Cymru yn ffres ym mhob ffordd.
Mae traddodiad ac arloesedd yn cwrdd gyda dulliau cynhyrchu naturiol, brandiau o’r radd flaenaf, cynhyrchwyr medrus, ac entrepreneuriaid bwyd a diod yn canfod ffyrdd newydd i greu cynnyrch Cymreig o ansawdd uchel.
Daw Cymru â’i flas unigryw ei hun i fyrddau ledled y byd. Bwyd tymhorol, cynhwysion a geir yn lleol a phinsiad o greadigrwydd yw’r sylfeini ar gyfer diwydiant bwyd ffyniannus ledled y wlad.
Rydym eisiau canolbwyntio ar Gymru fel y lle ar gyfer:
— Adnodau naturiol o ansawdd uchel
— Tarddiad neilltuol
— Cynhyrchion a ganfuwyd ac a grefftwyd yn gynaliadwy
— Cynhyrchwyr arloesol
— Diwydiant bwyd bywiog bwytai, gwyliau a stondinau dros dro
— Cyfoeth o adnoddau naturiol
Cymru yw’r man delfrydol i astudio. Mae ein prifysgolion yn croesawu myfyrwyr o bob rhan o’r byd, a gaiff eu denu gan ddiwylliant o ragoriaeth academaidd, cymunedau dysgu cefnogol ac amgylchoedd hardd.
Maent yn cynnig cymwysterau a berchir ledled y bydd, ac mae cyflogadwyedd wrth wraidd eu cenhadaeth. Mae gan ein holl sefydliadau gysylltiadau i ddiwydiannau ac maent yn cefnogi uchelgais entrepreneuraidd.
Maent wedi’u lleoli mewn trefi a dinasoedd llawn bywyd sydd ond taith fer o’r mynyddoedd a’r arfordir, gan roi ansawdd bywyd llawn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr.
Rydym eisiau canolbwyntio ar Gymru fel man ar gyfer:
— Ymchwil a gymeradwyir yn rhyngwladol
— Cymwysterau cydnabyddedig
— Sefydliadau sydd wedi’u hen sefydlu
— Cyflogadwyedd a chysylltiadau gyda diwydiannau
— Mannau llawn ysbrydoliaeth i fyw ynddynt
O filas Rhufeinig ac abatai o’r canoloesol i’r mannau a ysgogodd y Chwyldro Diwydiannol - a mwy o gestyll am bob milltir sgwâr nag unrhyw wlad arall - mae gan orffennol Cymru etifeddiaeth sy’n haeddu cael ei choleddu a’i chadw.
Ledled y wlad, mae ein safleoedd treftadaeth yn brawf o gyfoeth ein hanes. Mae gan bob safle ei stori ei hun i’w hadrodd, ac mae wedi chwarae rhan mewn llunio diwylliant ein gwlad fodern.
Mae Cadw, sy’n rhan o Lywodraeth Cymru, wedi ymroi i ofalu am y mannau hanesyddol hyn, gan wneud ein treftadaeth yn hygyrch i ymwelwyr a sicrhau ei fod yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Rydym eisiau canolbwyntio ar Gymru fel y man ar gyfer:
– Safleoedd treftadaeth llawn ysbrydoliaeth, sydd ag arwyddocâd rhyngwladol
– Amgylchedd hanesyddol hygyrch
– Ymrwymiad i gadw treftadaeth y wlad
– Yr arbenigedd a’r wybodaeth i ddod â’r gorffennol yn fyw
– Angerdd dros rannu ein stori