Rydym yn defnyddio cwcis

We use Cookies to improve your experience on this site.

You can accept our cookies policy or customise your choices.

Please refer to our Cookies Policy for more information.

Rheoli gosodiadau cwcis

Cysylltwch â Cymru Wales

Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddefnyddio asedau, ein canllawiau brand, trwyddedu neu fater cyfreithiol. Os ydych yn cael problem, neu’n meddwl bod modd gwella rhywbeth, rhowch wybod am hynny hefyd.

E-bostiwch ni yn imagesupport@gov.wales

Cwestiynau Cyffredin

C. Oes rhaid talu am gyrchu, lawrlwytho neu ddefnyddio asedau?
Nid oes rhaid talu am ddefnyddio’r asedau, cyn belled â’ch bod yn cydymffurfio â’r Telerau Defnyddio, amodau Trwydded ased unigol ac yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau Defnyddio neu Ganllawiau Brand a roddir.
C. Oes rhaid cofrestru neu fewngofnodi i chwilio am asedau?
Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch chwilio drwy’r asedau yn y llyfrgell heb gofrestru. O’r hafan neu’r dudalen Asedau, gallwch ddefnyddio’r bocs chwilio i chwilio gan ddefnyddio geiriau allweddol (tagiau), rhanbarth neu rif adnabod ased (os yw’n hysbys). Fodd bynnag, drwy gofrestru a mewngofnodi efallai y byddwch yn gallu canfod a chyrchu Asedau na fyddech yn gallu eu gweld fel arall, ar sail eich rôl a’ch statws fel defnyddiwr.
C. Sut mae cofrestru?
O’r hafan, cliciwch ar y botwm ‘mewngofnodi/cofrestru’ yn y bar offer llywio ar frig y dudalen. Yna mae’n rhaid i chi ddarparu a dilysu eich cyfeiriad e-bost cyn gosod cyfrinair a chwblhau eich proffil defnyddiwr.
Ar ôl cofrestru byddwch yn derbyn y rôl defnyddiwr diofyn ar gyfer cofrestru defnyddwyr. Er mwyn cyrchu rhai asedau a nodweddion mwy datblygedig efallai y byddwch yn derbyn rôl defnyddiwr gwahanol gan Weinyddwyr y wefan. Fel arall, efallai y byddwch yn derbyn Gwahoddiad Defnyddiwr drwy’r e-bost gyda rôl defnyddiwr gwahanol wedi’i ddynodi ymlaen llaw i chi. Cysylltwch â ni os ydych angen rôl defnyddiwr gwahanol.
C. Sut mae adfer fy nghyfrinair coll?
Os ydych wedi colli’ch cyfrinair mae’n rhaid ei ailosod. I wneud hynny, cliciwch y ddolen Cyfrinair Coll ar y ffurflen fewngofnodi a rhoi’ch cyfeiriad e-bost cofrestredig (yr e-bost i chi ei ddefnyddio i gofrestru ar y wefan hon). Byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i ailosod eich cyfrinair.
C. Oes yna derfyn ar yr amser y gallaf ddefnyddio ased?
Mae’n dibynnu. Os oes gan yr Ased Ddyddiad Dod i Ben (wedi’i nodi ar dudalen manylion yr Ased a phaneli manylion y Drwydded wrth lawrlwytho, rhannu ac anfon), mae’n rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r asedau ar y dyddiad gorffen. Os nad oes Dyddiad Dod i Ben, gallwch ddefnyddio’r ased cyhyd ag y dymunwch NEU nes bod perchennog yr Eiddo Deallusol (IP) (y brand/cwmni/sefydliad sy’n rhoi’r ased i chi yn y rhan fwyaf o achosion) yn gofyn i chi roi’r gorau i’w ddefnyddio.
C. Pam nad yw’r sain yn gweithio mewn rhai clipiau fideo?
Mae rhai o’r fideos yn rhai elfennol ac nid ydynt yn cynnwys sain. Fel arfer, byddwch yn gweld eicon Sain sy’n dangos a oes gan y fideo drac Sain.
C. Alla i olygu’r Asedau dwi’n eu lawrlwytho?
Ni ddylid golygu, newid neu wahanu hunaniaeth brand a logos o gwbl. Yn gyffredinol, ni ddylid golygu na newid Asedau eraill ychwaith. Fodd bynnag, os yw rheolau’r Drwydded neu’r cyfarwyddiadau Defnyddio’n caniatáu, gellir golygu asedau at ddibenion ailbwrpasu neu addasu.
C. Sut mae cael rôl defnyddiwr gwahanol?
Mae Rolau Defnyddwyr yn cael eu defnyddio i roi galluoedd penodol i Ddefnyddwyr fel y gallu i olygu meta-ddata, lanlwytho asedau, gweld asedau preifat ac ati. Mae’r cyhoedd (heb gofrestru na mewngofnodi) yn cael eu hystyried yn ddefnyddwyr ‘Gwestai’. Mae pob defnyddiwr cofrestredig yn cael rôl ‘Defnyddiwr Safonol’ yn ddiofyn. Os ydych yn credu y dylech gan Rôl Defnyddiwr gwahanol, cysylltwch â ni a gofyn am newid rôl.
C. Ni ddylid golygu, newid neu wahanu hunaniaeth brand a logos o gwbl. Yn gyffredinol, ni ddylid golygu na newid Asedau eraill ychwaith. Fodd bynnag, os yw rheolau’r Drwydded neu’r cyfarwyddiadau Defnyddio’n caniatáu, gellir golygu asedau at ddibenion ailbwrpasu neu addasu.
Anfonwch e-bost at imagesupport@gov.wales a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
C. Pan rwy’n agor y wefan dwi’n cael sgrin wag, neu mae’r eicon llwytho’n dal i droi a throi
Efallai nad yw eich porwr yn cefnogi’r wefan hon. Mae angen porwr gwe modern gyda Javascript a Chwcis wedi’u galluogi’n llawn. Gweler restr o borwyr gwe addas yma.