Rydym yn defnyddio cwcis

We use Cookies to improve your experience on this site.

You can accept our cookies policy or customise your choices.

Please refer to our Cookies Policy for more information.

Rheoli gosodiadau cwcis

Trosolwg – Telerau Defnyddio

Gellir defnyddio holl Asedau (fel y’u diffinnir isod) yn rhad ac am ddim cyn belled â bod yr holl delerau perthnasol, gofynion trwyddedu a chyfarwyddiadau ynghylch defnyddio yn cael eu dilyn a bod pob caniatâd priodol wedi’i sicrhau


✓ Mae’n rhaid defnyddio holl Asedau ar gyfer hyrwyddo a marchnata twristiaeth a /neu fewnfuddsoddiad i Gymru yn unig.

✓ Ni ddylid defnyddio unrhyw Ased ar ôl dyddiad Dyddiad Dod i Ben yr Ased hwnnw.

✓ Mae’n rhaid i unrhyw ddefnydd o Asedau gydymffurfio ag unrhyw delerau trwydded pellach a/neu gyfarwyddiadau ar gyfer eu defnyddio a all fod ynghlwm wrth Ased unigol.

✓ Mae’n rhaid i unrhyw ddefnydd o Asedau gydymffurfio â’r Canllawiau Brand a’r Telerau ac Amodau hyn.

LLYFRGELL CYFRYNGAU DIGIDOL LLYWODRAETH CYMRU: TELERAU AC AMODAU

SYLWER:

Cyn defnyddio Llyfrgell Cyfryngau Digidol Llywodraeth Cymru (“WG DML”), dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau perthnasol yn ofalus. Mae’r telerau ac amodau hyn (“Telerau ac Amodau” yn gymwys i’ch mynediad a’ch defnydd o WG DML a thrwy gael mynediad i’r WG DML hon a’i defnyddio, rydych yn cytuno i fod yn rhwym i’r Telerau ac Amodau hyn. Os nad ydych eisiau cytuno â’r Telerau ac Amodau hyn, ni ddylech ddefnyddio’r WG DML hon. Tynnir eich sylw hefyd at delerau ac amodau gwefan Llywodraeth Cymru sy’n rheoli defnydd cyffredinol unrhyw rai o’n Gwefannau a/neu  apiau https://beta.gov.wales/terms-and-conditions?lang=en. Mae’n rhaid darllen y Telerau ac Amodau hyn hefyd ynghyd â’n Polisi Preifatrwydd https://wales.com/en-us/privacy-statement.


1. Diffiniadau

Yn y Telerau ac Amodau hyn, ceir y diffiniadau canlynol:


2. Perchnogaeth y WG DML hon

2.1 Fel rhyngoch Chi a Ni, Llywodraeth Cymru yw perchennog y WG DML hon a chaiff ei gweithredu’n fewnol gan Dîm Cynnwys Digidol Croeso Cymru (e-bost: imagesupport@gov.wales). Llywodraeth Cymru, ei thrwyddedwyr neu ei darparwyr cynnwys yw perchennog yr holl Asedau a chynnwys a ddangosir neu a welir fel rhan o’r WG DML hon; gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, destun, graffeg, ffotograffau, data, logos, cerddoriaeth, fideo, dyluniadau, cod ffynhonnell, delweddau symudol, darluniadau a meddalwedd. 

2.2 Caiff holl elfennau’r WG DML hon eu hamddiffyn gan hawlfraint, nodau masnach, hawliau moesol a hawliau eiddo deallusol eraill. Ni cheir copïo, addasu, newid, atgynhyrchu, storio, dosbarthu, argraffu, perfformio, cyhoeddi, cyfathrebu neu ail-drosglwyddo unrhyw ran o’r WG DML hon (oni chaniateir hynny gan gytundeb ysgrifenedig arall rhyngoch Chi a Llywodraeth Cymru) mewn unrhyw ffordd ac eithrio’r ffyrdd a ganiateir yn benodol gan y Telerau ac Amodau hyn.  


3. Defnyddio’r WG DML hon

3.1 Trwy gofrestru, mewngofnodi a defnyddio cyfrinair i gael mynediad i Asedau a’u lawrlwytho o’r WG DML hon, rydych Chi yn gwneud contract gorfodol rhyngoch Chi a Ni. Os ydych Chi’n gyflogai neu asiant sy’n gweithio ar ran sefydliad, mae’n rhaid bod gennych chi’r awdurdod priodol i dderbyn y Telerau ac Amodau hyn ar ran eich cyflogwr neu oruchwyliwr.  Os nad oes gennych Chi’r awdurdod priodol neu os nad ydych chi’n dymuno bod yn rhwym i’r Telerau ac Amodau hynny, dylech anfon e-bost atom (imagesupport@gov.wales) yn nodi hynny o fewn 24 awr ac fe fyddwn Ni’n dileu Eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair fel na allwch Chi gael mynediad i’r WG DML hon.  Gallwch hefyd ddileu Eich cyfrif ar unrhyw adeg trwy ddewis “Dileu Fy Nghyfrif” ar dudalen broffil Eich cyfrif o fewn y WG DML hon.  Bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif Chi i wneud hyn. Ystyrir eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn os ydych yn lawrlwytho unrhyw ddeunydd a/nesu Asedau gan ddefnyddio Eich enw defnyddiwr a chyfrinair.

3.2 Mae eich cofrestriad yn bersonol i Chi ac rydych Chi’n gyfrifol am amddiffyn cyfrinachedd Eich manylion mewngofnodi a’ch cyfrinair. Mae’n rhaid i Chi gadw eich cyfrinair yn gyfrinachol a pheidio â’i ddatgelu i unrhyw drydydd parti. Ni ddylech ganiatáu i eraill ddefnyddio Eich manylion mewngofnodi a’ch cyfrinair i gael mynediad i’r WG DML hon, ac rydych Chi’n cytuno cymryd pob cam rhesymol i rwystro mynediad anawdurdodedig. Rydych Chi’n derbyn holl gyfrifoldeb am bob gweithgaredd o dan Eich cofrestriad a’ch cyfrif. Cewch eich dal yn gyfrifol am unrhyw achos o dorri’r rheolau sy’n codi wrth lawrlwytho deunydd o’r WG DML hon gan drydydd parti sy’n defnyddio Eich manylion mewngofnodi gyda’ch caniatâd neu hebddo. Rydych yn cytuno i’n hindemnio Ni unrhyw hawliau neu golledion sy’n codi o’ch methiant Chi i sicrhau bod Eich cyfrinair a manylion eich cyfrif yn gyfrinachol.   

3.3 Trwy gofrestru ar y WG DML hon, a chytuno gyda’r Telerau ac Amodau hyn, rydych Chi’n cytuno y byddwch yn darparu gwybodaeth gywir a chyfoes (y gallwn Ni ei defnyddio i ddilysu Eich adnabyddiaeth pan fyddwch Chi’n defnyddio’r WG DML hon) ac rydych chi’n cynrychioli fod gennych Chi’r awdurdodau i gytuno ar y Telerau ac Amodau hyn ar rain Eich sefydliad ac  y byddwch Chi’n cadw holl wybodaeth y cofrestriad a’r cyfrif yn gyfoes.

3.4 Cedwir unrhyw ddata personol y byddwch Chi’n ei roi ar gronfa ddata er mwyn i ni allu dilysu Eich adnabyddiaeth pan fyddwch Chi’n defnyddio’r WG DML hon; gwneir hynny’n unol â’r holl ddeddfwriaeth diogelu data a phreifatrwydd gymwys sydd mewn grym o dro i dro yn y DU gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ((UE) 2016/679) a Deddf Diogelu Data 2018.  

3.5 Wedi i chi gwblhau Ein proses gofrestru, gallwch Chi ddefnyddio copïau o’r Asedau yn y WG DML hon ar sail ac yn amodol ar y Telerau ac Amodau hyn. 

3.6 Ni chewch ddefnyddio’r WG DML hon i unrhyw ddiben sy’n anghyfreithlon neu a fydd yn achosi niwed i weithrediad y WG DML hon, ar ffurf firws, ffeil llwgr neu unrhyw fodd arall.

3.7 Ni chewch werthu, cyfnewid, masnachu, gwerthu neu gael gwared â’ch cyfrif mewn unrhyw  fodd arall. 

3.8 Rydym yn cadw’r hawl i derfynu Eich cofrestriad ar unwaith (a) os Ydych chi’n marw; (b) os ydych Chi (neu eich cyflogwr neu oruchwyliwr) ym mhedalu, yn mynd i law’r derbynnydd, neu’n destun trefniadau diddymu gwirfoddol neu orfodol neu unrhyw drefniant mhedalu arall; (c) os ydych Chi’n methu perfformio unrhyw rai o’ch rhwymedigaethau yn ôl y Telerau ac Amodau hyn cyn pen 28 diwrnod wedi i Ni roi rhybudd i Chi i gydymffurfio; neu (d) yn ddirybudd yn ôl ein disgresiwn ni yn unig heb atebolrwydd i Chi. Pe bai terfyniad o’r fath, ni chewch wedyn fynediad i’r WG DML hwn, bydd holl hawliau a roddwyd yn dychwelyd atom Ni ar unwaith a bydd unrhyw ddefnydd a/neu gamddefnydd o unrhyw Ased gennych Chi gyfystyr â thorri hawlfraint.  

4. Defnyddio Asedau

4,1 Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn gymwys i holl ddefnyddwyr y WG DML hon ac unrhyw Asedau a geir o’r WG DML hon. 

4.2 Ni chewch ddefnyddio Asedau hyd nes Eich bod wedi cwblhau cofrestriad llawn a chytuno ag unrhyw delerau cysylltiedig ar gyfer defnyddio Asedau unigol. Cewch wedyn ddefnyddio’r Asedau at y dibenion canlynol yn unig: 

(a) defnydd cysylltiedig â thwristiaeth anfasnachol a/neu at ddibenion hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr, a/neu 

(b) defnydd anfasnachol ei natur a/neu at ddibenion hyrwyddo mewnfuddsoddi i Gymru; a/neu 

(c) gweithgarwch anfasnachol yn unig (mae ‘gweithgarwch masnachol’ yn golygu lle mae taliad yn cael ei dderbyn neu ei dalu (neu lle mae cytundeb ar gyfer hynny) am y gweithgarwch marchnata, a/neu ofod yn y cyfryngau, a/neu ofod hysbysebu, a/neu’r cyhoeddiad (cyfan) y mae’r Ased yn ymddangos ynddo. Darperir defnydd o’r Asedau ar gyfer gweithgarwch anfasnachol yn unig). Gwaherddir yn llwyr unrhyw ddefnydd arall o’r Asedau, neu gynnwys y WG DML hon.  

(d) gellir defnyddio Asedau’n unig at y diben penodol y gofynnwyd amdanynt yn wreiddiol ac ni ddylid eu storio neu eu defnyddio at unrhyw ddiben arall heb gytundeb penodol ymlaen llaw gan Dîm Cynnwys Digidol Croeso Cymru (e-bost: imagesupport@gov.wales).

4.3 Mae’n rhaid i Chi fodloni eich hun bod yr holl hawliau angenrheidiol, trefniadau rhyddhau model a/neu gydsyniadau sydd efallai eu hangen ar gyfer atgynhyrchu yn eu lle ac nad yw’r defnydd a wneir o unrhyw Ased yn frwnt, anweddus, enllibus neu anghyfreithlon. Nid ydym yn gwneud unrhyw honiad neu warant o safbwynt Eich defnydd o gynnwys, enwau, testun, pobl, nodau masnach na deunydd hawlfraint sydd i’w gweld mewn unrhyw Ased. 

4.4 Gwaherddir yn llwyr unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r Asedau (gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, hyrwyddo cynhyrchion nad ydynt yn ymwneud â thwristiaeth neu fewnfuddsoddiad, neu gynhyrchion masnachol, neu ddefnydd difenwol neu  frwnt) a byddwch Chi yn ein hindemnio Ni mewn perthynas ag unrhyw hawliadau, iawndal, colledion,  costau neu dreuliau all ddod i’n rhan Ni wedi i chi ddefnyddio Asedau mewn unrhyw fodd nad yw’n cydymffurfio â’r Telerau ac Amodau hyn.

4.5 Mae’r holl Asedau a gwybodaeth a ddarperir yn y WG DML hon naill ai’n Hawlfraint y Goron neu’n eiddo Llywodraeth Cymru neu eiddo ei thrwyddedwyr a/neu ei darparwyr cynnwys. Mae hawliau moesol holl awduron y gweithiau a gynrychiolir yn y WG DML hon wedi’u haeru. 

4.6 Mae’n rhaid i chi gydnabod "© Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2022) Cymru Wales" a/neu’r awdur os ydym yn nodi hynny pan gaiff Ased ei ddefnyddio. Mae’n rhaid i gydnabyddiaeth o’r fath ymddangos naill ai wrth ymyl y ddelwedd neu mewn ‘rhestr o gydnabyddiaethau’ o fewn yr erthygl neu’r cyhoeddiad dan sylw. 

4.7 Os ydych Chi’n methu cydnabod Hawlfraint y Goron a/neu’r awdur, bydd rhaid talu ffi trwydded mewn perthynas â’r Ased perthnasol. Cyfrifir hyn drwy gyfeirio at gyfraddau ffotograffau stoc arferol a Ni yn unig fydd yn pennu hyn. 

4.8 NI chewch ddefnyddio Asedau gyda dyfrnod mewn unrhyw gynhyrchion terfynol i’w dosbarthu ar ffurf argraffedig neu electronig naill ai o du mewn neu du allan Eich cwmni neu sefydliad heb i Ni roi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Ni ddylech addasu na thynnu unrhyw ddyfrnod electronig sy’n weladwy neu sy’n anweledig.   

4.9 Mae’n rhaid i chi gadw at unrhyw amodau neu gyfyngiadau a nodir mewn cipion ymlaen llaw neu sydd ynghlwm wrth Asedau a lawr lwythwyd (ym meysydd gwybodaeth IPTC, y gellir eu darllen gan ddefnyddio “File Info” Adobe Photoshop a mathau eraill o feddalwedd). Gallai’r rhain gynnwys rhybuddion fel “Defnydd Golygyddol yn Unig”. Mewn achos o’r fath, ni chaniateir defnyddio’r Asedau at ddibenion an-olygyddol (e.e. hysbysebu) a thrwy dderbyn y Telerau ac Amodau hyn, rydych Chi’n cytuno ein hindemnio Ni a’n Trwyddedwyr a’n Darparwyr Cynnwys yn erbyn unrhyw gamau cyfreithiol neu gostau eraill all godi o ddefnydd anawdurdodedig o’r fath.  

4.10 Gwaherddir yn llwyr atgynhyrchu mewn unrhyw fodd yr Ased cyfan neu unrhyw ran o’r Ased (gan gynnwys, heb gyfyngiad: tafluniad, cyfeiriad artist, darlun artist, diwyg neu gyflwyniad Asedau) at unrhyw ddiben na chaniateir yn glir gan y Termau ac Amodau hyn a/neu unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt yma.

4.11 Pe digwydd i Chi ddefnyddio unrhyw Ased mewn unrhyw fodd yr ystyriwn na chaniateir hynny gan y Telerau ac Amodau hyn, byddwn yn rhoi gwybod i Chi eich bod wedi torri’r Telerau ac Amodau hyn a dylech Chi wedyn roi’r gorau ar unwaith i ddefnyddio’r Ased a, phe dymunwn hynny, ddinistrio unrhyw gopïau o’r Ased yn Eich eiddo neu dan Eich rheolaeth.  Rydym yn cadw’r hawl i ofyn am iawndal drwy sianeli cyfreithiol oni bai Eich bod yn cytuno i’n had-dalu, fel iawndal, swm cyfwerth â phump (5) gwaith pris gwerth y farchnad a godir dan gyfraddau ffotograffau stoc arferol fel y pennir gennym Ni; neu unrhyw swm arall a bennir gennym yn rhesymol i adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa. Os ydych Chi’n meddwl gwneud y taliad fel yr amlinellwyd uchod, ymhen deg (10) diwrnod gwaith wedi i Ni anfonebu’r ffi, rydym yn cadw’r hawl i ddwyn camau cyfreithiol ar sail torri hawlfraint a/neu dor-cytundeb, ynghyd â ffioedd cyfreithiol a holl gostau cysylltiedig.  

4.12 Mae hawliau atgynhyrchu, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig, yn:  

a) amodol ar y Telerau ac Amodau hyn ac unrhyw delerau ac amodau eraill sy’n ymwneud â’r modd y trosglwyddir yr Asedau,  

b) hawliau atgynhyrchu neu gyhoeddi anghyfyngedig am hyd at 36 mis yn unig, gan ddechrau pan drosglwyddir yr Asedau. Mae’n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth gywir ynghylch eu defnyddio pan ofynnir i chi. Bydd defnydd pellach y tu hwnt i 36 mis yn golygu bod yn rhaid i Chi ail-adrodd y broses archebu. Bydd methu â gwneud hynny yn golygu y bydd yn rhaid talu ffi trwydded fel y pennir gennym. 

c) personol i Chi a ni chewch eu trosglwyddo i unrhyw drydydd parti. 

4.13 Ni ddylech ail-ddosbarthu neu is-drwyddedu unrhyw Ased a ddarperir gennym Ni neu a lawr lwythwyd o’r WG DML hon heb Ein caniatâd penodol.  

4.14 Os ydym Ni’n cytuno y gallwch Chi drwyddedu’r defnydd o unrhyw Asedau i unrhyw drydydd parti, mae’n rhaid i Chi drefnu cytundeb gyda’r trydydd parti hwnnw ar delerau nad ydynt yn llai llym na’r rhai gaiff eu nodi yn y Telerau ac Amodau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn rhwym i delerau trwydded sy’n cyfyngu ar argraffu, copïo, rhwydweithio, mynediad lluosog neu ddefnydd arall o’r Asedau perthnasol at ddibenion personol yn unig, ac sy’n caniatáu defnydd o’r Asedau perthnasol hynny yn unig fel y caniateir gan y Telerau ac Amodau hyn; gan wahardd trosglwyddo, ail-werthu, rhenti a benthyg Asedau a chan sicrhau bod y gydnabyddiaeth briodol yn cael ei rhoi i Ni a’r awdur.

4.15 Ni ddylid newid neu drin Asedau, nac ychwanegu atynt neu ddileu unrhyw ran heb i Ni roi cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw.   

4.16 Os gofynnir i chi, mae’n rhaid i Chi ddarparu i Ni wedi i chi atgynhyrchu neu gyhoeddi unrhyw Ased, o leiaf un copi am ddim neu ddolen i unrhyw gyhoeddiad lle mae atgynhyrchiad neu gyhoeddiad o unrhyw Ased yn ymddangos i imagesupport@gov.wales

4.17 At unrhyw ddibenion golygyddol, ni chewch Chi atgynhyrchu unrhyw Asedau o’r WG DML hon ar gyfer unrhyw erthyglau negyddol yn ymwneud â thwristiaeth a/neu unrhyw erthyglau masnachol. Gallwn bennu hyn yn llwyr yn ôl Ein disgresiwn ac mewn achos o’r fath, rydym yn cadw’r hawl i godi ffi trwydded fel y pennir yn rhesymol gennym am ddefnydd nad yw’n cydymffurfio a/neu ddiddymu Eich hawl i ddefnyddio unrhyw Ased a/neu Eich cofrestriad defnyddiwr ar unwaith.  

4.18 Os defnyddir unrhyw Ased sy’n dangos model mewn modd a fyddai’n arwain i berson rhesymol gredu bod y model yn bersonol yn defnyddio neu’n cymeradwyo cynnyrch neu wasanaeth, neu os defnyddir y darlun o’r model mewn cysylltiad â phwnc a allai achosi embaras, neu fod yn angharedig neu’n ddadleuol i berson rhesymol, mae’n rhaid i Chi sicrhau bod datganiad amlwg yn cyd-fynd â phob defnydd sy’n nodi mai model yw’r person a bod yr Ased yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft yn unig.   

4.19 I’r graddau y mae Eich defnydd o’r Asedau (neu unrhyw rai ohonynt) yn arwain at hawliau eiddo deallusol, rydych Chi’n cytuno bod hawliau o’r fath yn gorwedd gyda Ni a’ch bod felly’n trosglwyddo holl hawliau i Ni. Rydych yn cytuno llunio’r holl ddogfennau a chymryd pob cam y gallwn Ni’n rhesymol ddisgwyl i chi ei wneud i sicrhau ein bod Ni’n derbyn hawliau o’r fath. 


5. Ymwadiad

5.1 Darperir y WG DML hon a’i chynnwys (gan gynnwys yr Asedau) ‘fel y maent’ ac rydym felly yn eithrio i’r graddau mwyaf y caniateir hynny gan y gyfraith, unrhyw warant o unrhyw fath, p’un ai ydynt yn ddiamwys neu’n oblygedig, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig ynghylch gwerth masnachol, ansawdd ac addasrwydd at ddiben penodol. Ni warantir bod unrhyw swyddogaeth o fewn y WG DML hon heb ddiffygion neu ei bod bob amser ar gael.  

5.2 Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom  i sicrhau bod y WG DML hon neu unrhyw Asedau ar gael i chi. Gallwn ar unrhyw adeg, yn ôl ein disgresiwn llwyr, olygu, gwrthod dangos, neu ddileu unrhyw ran o’r WG DML hon (gan gynnwys eich deunydd) fel y credwn sy’n briodol.   

5.3 Byddwn yn ymdrechu’n rhesymol i sicrhau bod yr Asedau o fewn y WG DML hon mor gywir, dilys, dibynadwy â phosibl ond nid ydym yn rhoi sicrwydd nag yn gwarantu bod yr Asedau’n gywir, yn ddilys a/neu’n gywir.  

5.4 Mae Asedau ar gael ar ffurf ffeiliau o wahanol faint. Fodd bynnag, Ni allwn warantu y bydd Ased ar gael yn y maint y byddwch Chi ei angen.  

5.5 Os ydych Chi’n dibynnu ar y WG DML hon neu unrhyw Asedau neu ddeunydd arall sydd ar gael drwy’r WG DML hon, rydych yn cydnabod eich bod yn gwneud hynny ar eich risg eich hun. 

5.6 Rydym yn cymryd gofal rhesymol o ran Ein rhwymedigaethau dan y Telerau ac Amodau hyn, ond ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a ddaw i’ch rhan Chi neu unrhyw drydydd parti wrth i Chi ddefnyddio neu atgynhyrchu neu gyhoeddi deunydd o’r WG DML hon a/neu unrhyw Asedau. 


6. Indemniad a Chyfyngiadau Atebolrwydd

6.1 Rydych yn cytuno amddiffyn, indemnio a sicrhau bod Llywodraeth Cymru, ei his-gwmnïau a’i  chysylltiadau a’u swyddogion yn rhydd rhag unrhyw golledion, dyledion a threuliau (gan gynnwys ffioedd a chostau cyfreithiol rhesymol) sy’n tarddu o, neu o ganlyniad i hawliadau gan drydydd parti mewn perthynas â’ch defnydd Chi o’r WG DML hon a/neu’r Asedau y tu hwnt i gwmpas y Telerau ac Amodau hyn neu’n tarddu allan o unrhyw achos arall o dorri’r Telerau ac Amodau hyn. 

6.2 I’r graddau eithaf a ganiateir yn ôl y gyfraith, ni fyddwn, dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol (p’un ai ar sail torri contract, esgeulustod neu fel arall) am unrhyw ddifrod neu golledion a ddaw i’ch rhan Chi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol mewn cysylltiad â (a) defnyddio neu fethu â defnyddio’r WG DML hon , yr Asedau ac unrhyw ddeunydd arall sydd ar gael ar neu drwy’r  WG DML hon; neu (b) unrhyw weithred  neu benderfyniad a gymerir o ganlyniad i gael mynediad i’r WG DML hon neu eu defnyddio, neu’r Asedau neu unrhyw ddeunydd  arall sydd ar gael ar neu drwy’r WG DML hon.

6.3 Os nodir bod terfynau’r atebolrwydd ym mharagraff (2) uchod yn annilys yn ei gyfanrwydd neu’n rhannol, yna ni fydd cyfanswm Ein hatebolrwydd mwyaf i Chi am holl golledion, costau a threuliau (heblaw am unrhyw golledion, costau a threuliau na ellir eu cyfyngu gan y gyfraith) yn fwy nag un bunt sterling (£1.00).


7. Defnyddio Asedau’n Ddigidol

7.1 Rydych yn cydnabod mai ein heiddo deallusol Ni (neu Ein trwyddedwyr neu ddarparwyr cynnwys) yw’r Asedau. Gan hynny, bydd unrhyw hawliau eiddo deallusol mewn unrhyw ddelweddau digidol gaiff eu creu o’r Asedau (“Asedau Digidol” yn gorwedd gyda Ni, Ein trwyddedwyr neu Ein darparwyr cynnwys (fel y bo’n briodol).

7.2 Ni chewch greu, storio na throsglwyddo Asedau Digidol heb Ein caniatâd ni ac eithrio lle y mae angen gwneud hynny’n achlysurol neu’n llwyr  fel rhan o broses cynhyrchu eitemau a drwyddedir gennym Ni. Os rhoddir caniatâd, bydd yr amodau canlynol yn gymwys:

7.3 Ni ddylid ail-enwi unrhyw Ased Digidol yr ydych yn ei greu ac mae’n rhaid  ei gofnodi a’i labelu gyda chyfeirnod yr Ased a ddefnyddiwn Ni a’n gwybodaeth ynghylch cydnabyddiaeth hawlfraint fel rhan hanfodol o’r ffeil Asedau, a dylid ei storio mewn cronfa data electronig sydd yn eich meddiant a’ch rheolaeth Chi yn unig. 

7.4 Rydych yn cytuno dinistrio holl Asedau Digidol sydd yn eich meddiant neu eich rheolaeth (gan gynnwys unrhyw gopïau cyn-argraffu neu cyn-gyhoeddi o’r Asedau ac unrhyw gopïau neu gofnodion o’r delweddau a gynhelir ar gronfa ddata) pan ddaw’r Dyddiad Dod i Ben neu os terfynir eich hawliau i ddefnyddio’r Ased perthnasol neu Eich cyfrif i’r WG DML hon.


8. Defnyddio Cyfryngau, Delweddau a Ffilmiau Marchnata a ddarperir gennych Chi i Lywodraeth Cymru 


8.1 Mae’n bosibl i Chi a Ni gytuno i gynnwys cyfryngau, delweddau a ffilmiau a gynhyrchwyd gennych Chi yn y  WG DML hon.

8.2 Er mwyn ein galluogi Ni i ddefnyddio cyfryngau, delweddau a ffilmiau a ddarperir  gennych Chi ar unrhyw un o’n gwefannau Ni neu yn Ein cyhoeddiadau print, neu i’w storio yn y WG DML hon, neu fel arall at ddibenion marchnata twristiaeth yng Nghymru a/neu ddibenion anfasnachol eraill, mae’n rhaid i Chi lenwi Ffurflen Cais am Ddefnyddio Hawlfraint (ar gael fan hyn  https://www.dropbox.com/s/p2eyxtfmw4y69wv/Cymru%20Wales%20Image%20Copyright%20Form%20-%20English.docx?dl=0 )a’i hanfon at Dîm Cynnwys Digidol Croeso Cymru (e-bost: imagesupport@gov.wales), sef:

i. Caniatâd i ddefnyddio delweddau a ffilmiau a ddarperir i Lywodraeth Cymru.  

8.3 Mae’n rhaid i chi sicrhau fod gennych yr holl hawliau sy’n angenrheidiol (gan gynnwys trwyddedau priodol) i gyflwyno neu ddarparu’r deunydd perthnasol i’r WG DML hon ac i alluogi iddo gael ei ddefnyddio fel Ased gan ddefnyddwyr y WG DML hon yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn a’r ddogfennaeth y cyfeirir ati ynddynt.  

8.4 Trwy uwch lwytho, cyflwyno, creu, addasu neu drosglwyddo unrhyw ddeunydd i’r WG DML hon, rydych Chi’n (a) rhoi trwydded anghyfyngol, rhydd rhag breindaliadau, byd-eang, parhaus a diwrthdro i Ni arddangos yn gyhoeddus, cyfleu i’r cyhoedd a sicrhau bod y deunydd ar gael (mewn unrhyw fodd sy’n wybyddus nawr neu a ddatblygir yn y dyfodol) i holl ddefnyddwyr eraill y WG DML hon a defnyddwyr eraill Ein gwasanaethau mewn unrhyw fodd ag y rhown ganiatâd iddo o dro i’w gilydd; a (b) cydnabod ac yn cytuno na fydd unrhyw freindaliadau neu daliadau eraill yn cael eich talu i chi neu’n ddyledus i chi am eich deunydd, nac ychwaith am ganiatáu’r hawliau a nodir uchod.  

8.5 Byddwn yn ymdrechu’n rhesymol i sicrhau y bydd unrhyw ddeunydd a ddarparwch Chi i ni, ac sy’n cael ei gynnwys yn y WG DML hon, yn cael ei weld a’i ddefnyddio yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn, a’ch bod yn derbyn y gydnabyddiaeth briodol.   

8.6 Rydych chi’n llwyr gyfrifol am y deunydd y byddwch yn ei ddarparu drwy’r WG DML hon. Rydych yn nodi ac yn gwarantu nad yw unrhyw ddeunydd a ddarparwch (a) yn torri ar hawlfraint, hawl preifatrwydd neu unrhyw hawl arall sydd gan unrhyw drydydd parti; a (b) nad yw’n cynnwys unrhyw ddeunydd sy’n ddifenwol, anweddus, anghyfreithlon neu a allai amharu ar Ein henw da. 

8.7 Rydych yn cytuno i’n hindemnio Ni’n llawn rhag unrhyw hawliau, atebolrwydd, iawndaliadau a threuliau gan drydydd parti sy’n tarddu o’ch gweithgareddau chi neu’r deunydd y byddwch Chi’n ei roi i Ni ei gynnwys yn y WG DML hon.  

8.8 Gallwn, yn ôl ein disgresiwn llwyr, ddileu unrhyw ddeunydd (gan gynnwys eich deunydd) neu Asedau o’r WG DML ar unrhyw adeg. 

8.9 Os Ydym yn gofyn a/neu’n eich comisiynu Chi i greu, golygu a chynhyrchu delwedd(au) a/neu fideo(s) (y “Cynhyrchiad”) i’w defnyddio ar unrhyw rai o’n gwefannau Ni, yn Ein cyhoeddiadau print, neu i’w storio ar y WG DML hon, neu fel arall ar gyfer marchnata twristiaeth yng Nghymru a/neu ddibenion anfasnachol, byddwch Chi’n cytuno gyda’r telerau ac amodau fel y’u nodir yn y cytundebau comisiynu perthnasol; ac yn enwedig mewn perthynas ag aseinio unrhyw hawlfraint gaiff ei greu.    

9. Cyffredinol

9.1 Ni fydd amrywio’r Telerau ac Amodau hyn yn effeithiol oni bai bod cytundeb ysgrifenedig wedi’i lunio.  

9.2 Ni fydd unrhyw fethiant neu oedi o ran arfer neu orfodi unrhyw rai o’n hawliau Ni dan y Telerau ac Amodau hyn yn golygu bod hawliau o’r fath yn cael eu hepgor nac ychwaith yn rhwystr rhag eu harfer na’u gorfodi yn y dyfodol.  

9.3 Pe gwelir unrhyw anghytundeb yn codi rhyngom Ni a Chi, dylid yn y lle cyntaf gyfeirio anghytundeb o’r fath i sylw uwch gynrychiolwyr o’r naill ochr a’r llall er mwyn datrys y mater. Os na ellir datrys y mater, byddwn ni a chi, os ceir cytundeb rhyngom, yn cytuno ar ddilyn mesurau cyfryngu gan ddangos ewyllys da i ddatrys yr anghydfod.    

9.4 Mae’r holl wybodaeth a gynhelir gennym Ni yn amodol ar ofynion peth deddfwriaeth mynediad at wybodaeth, gan gynnwys Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Deddfau Gwybodaeth"). Rydych chi’n cydnabod efallai y bydd yn rhaid i ni dan y Deddfau Gwybodaeth ddatgelu gwybodaeth yn ymwneud â’r holl Asedau neu rannau ohonynt, Eich defnydd o’r WG DML hon a/neu unrhyw wybodaeth, cyfryngau, delweddau a ffilmiau y byddwch Chi’n eu darparu i Ni neu’n cyflwyno gan ddefnyddio’r WG DML hon (gan gynnwys y manylion a ddarperir gennych pan fyddwch Chi’n cofrestru gyda’r WG DML hon ac unrhyw Asedau a gyflwyir gennych).  Rydych yn cydnabod ac yn cytuno mai Ni fydd yn gyfrifol am bennu, yn ôl ein disgresiwn lwyr, a oes angen datgelu unrhyw wybodaeth yn unol â darpariaethau’r Deddfau Gwybodaeth, ac nad oes unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn i’n rhwystro Ni rhag datgelu (ac ni fydwn yn atebol i chi mewn cysylltiad ag unrhyw ddatgelu) unrhyw wybodaeth yn unol â’r Deddfau Gwybodaeth.  

9.5 Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu rheoli gan gyfraith Cymru a Lloegr ac rydyn Ni a Chi felly’n cytuno i ymostwng i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.   

These terms of use were last updated on 28 March 2019.