HYSBYSIAD PREIFATRWYDD – LLYFRGELL DELWEDDAU LLYWODRAETH CYMRU
Fel rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r delweddau sy’n dod i law, at y dibenion a restrir isod. Cynhelir y dibenion hyn yn unol â’ch chaniatâd diamwys (y ffurflen caniatâd i ddefnyddio delwedd unigolyn) i brosesu’ch data personol (delwedd) at ddiben penodol.
1. Y dibenion yw:
Cyhoeddiadau, Cyflwyniadau, Arddangosfeydd, Sioeau, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefannau
2. Âphwyrydymynrhannu’chgwybodaeth?
Ni fydd gwybodaeth bersonol a ddelir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei rannu â thrydydd parti. Gall delweddau gael eu rhannu dan Hawlfraint y Goron ar gyfer hyrwyddo Cymru mewn ffordd bositif.
3. Am faint fyddwn ni’n cadw’ch gwybodaeth?
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data yn ei llyfrgell ddelweddau at y dibenion a nodir yn Adran 1. Adolygir cynnwys y llyfrgell ddelweddau bob pum mlynedd a bydd unrhyw ddelweddau a ystyrir nad ydynt yn addas i’w defnyddio yn cael eu dileu.
4. Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth/data
Mae gennych yr hawliau a ganlyn:
- Yr hawl i weld y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch
- Yr hawl i sicrhau ein bod yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hynny
- Yr hawl (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu’r wybodaeth
- Yr hawl i ofyn am ddileu’ch data
- Yr hawl i gofrestru cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac yn ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru
Neu: Rheolwr Asedau Digidol, yr Is-adran Gyfathrebu, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk