Rydym yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i wella’ch profiad ar y wefan hon.
Gallwch dderbyn ein polisi cwcis neu addasu’ch dewisiadau.
Cyfeiriwch at ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth.
Fel rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r delweddau sy’n dod i law, at y dibenion a restrir isod. Cynhelir y dibenion hyn yn unol â’ch chaniatâd diamwys (y ffurflen caniatâd i ddefnyddio delwedd unigolyn) i brosesu’ch data personol (delwedd) at ddiben penodol.
Cyhoeddiadau, Cyflwyniadau, Arddangosfeydd, Sioeau, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefannau
Ni fydd gwybodaeth bersonol a ddelir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei rannu â thrydydd parti. Gall delweddau gael eu rhannu dan Hawlfraint y Goron ar gyfer hyrwyddo Cymru mewn ffordd bositif.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data yn ei llyfrgell ddelweddau at y dibenion a nodir yn Adran 1. Adolygir cynnwys y llyfrgell ddelweddau bob pum mlynedd a bydd unrhyw ddelweddau a ystyrir nad ydynt yn addas i’w defnyddio yn cael eu dileu.
Mae gennych yr hawliau a ganlyn:
I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac yn ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru
Neu: Rheolwr Asedau Digidol, yr Is-adran Gyfathrebu, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk