Conwy Castle

Pecynnau Cymorth

O bryd i’w gilydd bydd tîm brand Cymru Wales yn paratoi pecynnau cymorth penodol ar gyfer ymgyrchoedd neu ddigwyddiadau allweddol. Casgliadau o asedau wedi’u curadu yw’r rhain, sydd ar gael i’n partneriaid eu defnyddio i gefnogi ein gweithgareddau allweddol. Gallant gynnwys delweddau, ffeiliau fideo, darluniau, naratifau, sleidiau a chanllawiau ymgyrchoedd.

Drwy weithio gyda’n gilydd a rhannu’r un pecynnau cymorth gallwn gyflwyno negeseuon cryf a chyson am Gymru, gan sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed uwchlaw’r dorf.


Dydd Dewi Sant

Gwlad, Gwlad.
Rydyn ni’n gwneud pethau da – dros ein gilydd, dros ein gwlad, dros y byd.
Ymunwch â ni.

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i arddangos Cymru i'r byd. Byddwn yn adrodd straeon am ein pobl, ein diwylliant, ein busnesau a’r cymunedau sy'n gwneud ein gwlad mor arbennig. Mae casgliad o asedau a deunyddiau i'n helpu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar gael isod.

Pecyn Dydd Gŵyl Dewi
St David's Cathedral, Pembrokshire

Croeso '25

Blwyddyn Croeso

Byddwn yn mynd a Cymru i’r byd yn 2025, gyda lawnsio Blwyddyn Croeso, y flwyddyn thema diweddaraf dan arweiniad Croeso Cymru.

Ein hymgyrch farchnata flaenllaw ar gyfer Cymru, Hwyl, sy’n cael ei chyflwyno o dan ymbarél y flwyddyn thematig Blwyddyn Croeso, ac sy’n canolbwyntio ar y teimladau o hwyl a llawenydd y gallwch eu profi "Yng Nghymru yn unig".

Rydym yn gwahodd rhanddeiliaid o fewn y diwydiant i weithio'n agos gyda ni unwaith eto a gweiddi'n uwch fyth am ein Croeso Cymreig unigryw a dathlu ein profiadau, cynhyrchion, cyrchfannau a diwylliant eiconig, sydd i'w gweld yng Nghymru yn unig; rhaid gwneud profiadau yr ydym am wahodd ymwelwyr i deimlo, blasu a gweld.

Isod, mae nifer o asedau i chi ddefnyddio yn eich gweithgaredd marchnata cysylltiedig gan gynnwys ein canllaw Gweithio gyda Ni, logo Croeso '25 a delweddau ansawdd uchel.

Pecyn Cymorth Blwyddyn Croeso
cold-water-swimming-at-borth-ceredigion
Alyn Wallace - Elan Valley

Llwybrau.

Croeso i Llwybrau. Yn dilyn llwyddiant ein hymgyrchoedd thematig blaenorol, mae ein hymgyrch diweddaraf "Llwybrau" yn gwahodd ymwelwyr a thrigolion Cymru i archwilio llwybrau epig Cymru, wrth i ni ddangos yr hyn sydd gennym i’w cynnig - gan ddefnyddio llwybrau fel sbardun i brofiadau cyffrous a chyfleoedd newydd.

O Monet (Amgueddfa Cymru) i'r mynyddoedd, ac o’r arfordir i'r cestyll, mae llwybrau y y gall pob busnes eu dilyn ac mae cymaint y gall ymwelwyr eu harchwilio a’u mwynhau.

Isod gallwch gael mynediad at asedau amrywiol sy'n cynnwys ein Llawlyfr i’r Diwydiant a chanllawiau logo Llwybrau.

Pecyn cymorth Llwybrau
Study in Wales image

Astudio yng Nghymru

Cymru yw’r man delfrydol i astudio. Mae wyth prifysgol yn y wlad sy’n cynnig cannoedd o gyrsiau ac yn arwain at gymwysterau a berchir ledled y byd, a miloedd o storïau am lwyddiannau graddedigion.

Mae ein prifysgolion yn croesawu myfyrwyr o bob rhan o’r byd, a ddenir gan gymunedau dysgu cefnogol sydd wedi ymdrwytho mewn diwylliant o ragoriaeth academaidd. Maent wedi’u lleoli mewn trefi a dinasoedd byrlymus sy’n cynnig ansawdd bywyd llawn ysbrydoliaeth.

Cliciwch i gael mynediad at gyfeiriadur mawr o ddelweddau ac adnoddau y gellir eu defnyddio i hyrwyddo addysg uwch yng Nghymru.

Pecyn cymorth Astudio yng Nghymru

Cadw

Cadw, fel mae’r enw’n awgrymu, yw’r sefydliad sydd â’r gwaith o gadw, dathlu a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol.

Fel isadran Llywodraeth Cymru mae Cadw yn gofalu am adeiladau, henebion a mannau arwyddocaol eraill sydd wedi llunio hanes ein cenedl - yn cynnwys ein cestyll byd enwog - ac yn sicrhau ein bod yn eu trosglwyddo yn y cyflwr gorau posibl i’r genhedlaeth nesaf.

Isod gallwch gael mynediad ar gyfeiriadur wedi’i guradu’n arbennig o ddelweddau ac adnoddau yn ymwneud â gwaith Cadw, ac i nifer o’r safleoedd ledled Cymru sydd dan ei warchodaeth.

Pecyn cymorth Cadw
Cadw image
Sense of Place / Naws am Le

Naws am Le

Nid dim ond y golygfeydd, y diwylliant a’r dreftadaeth sy’n gwneud Cymru’n arbennig. Mae yna hefyd rywbeth llai diriaethol: teimlad o le.

Mae’n ymwneud â’r teimlad o fod yng Nghymru – teimlad a rennir sy’n uno’r nodweddion ffisegol gyda chof, celf a myth. Ac mae’n ymwneud â’r cyffyrddiadau bychan unigryw Gymreig sy’n rhan annatod o’n bywydau.

Rydym wedi crynhoi casgliad o asedau digidol sy’n cyfathrebu’n fyw ein teimlad o le, a fydd yn eich cynorthwyo i ddiddori, rhyfeddu ac ysbrydoli eich cynulleidfa.

Naws am Le

Bwyd a diod

Mae Mawrth y cyntaf yn ddiwrnod mawr yng nghalendr Cymru, diwrnod pan fyddwn yn dathlu ein nawddsant. Wedi’i eni yn Sir Benfro tua’r flwyddyn 500, roedd Dewi Sant yn bregethwr mawr ei barch a sefydlodd eglwysi a mynachlogydd, ac mae’n enwog am ei ddoniau gwyrthiol.

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn achlysur lliwgar. Bydd plant ysgol yn gwisgo mewn gwisg Gymreig, gan gynnwys y merched mewn siolau a hetiau tal traddodiadol, ac yn gwisgo un o’n dau symbol cenedlaethol - y genhinen neu’r cennin pedr. Cynhelir gorymdeithiau, cyngherddau, eisteddfodau a digwyddiadau eraill ledled Cymru.

Isod gallwch gael mynediad at ystod o adnoddau, yn cynnwys delweddau o’n symbolau cenedlaethol a lluniau yn dangos sut y dathlir Dydd Gŵyl Dewi ledled y wlad.

Pecyn Cymorth Bwyd a Diod
Bwyd a Diod